Lleoliad:
Committee Room 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Mawrth 2021
Amser:
09.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Graeme Francis - Clerc y Pwyllgor
Kayleigh Imperato – Dipwrwy Glerc
0300 200 6373
Deisebau@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae'r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
(Tudalennau 1 - 43)
2 Deisebau newydd COVID-19
2.1 P-05-1118 Gadewch i rieni plant dan 1 oed ffurfio swigen gefnogaeth o dan gyfyngiadau Covid Haen 4 newydd
(Tudalennau 44 - 47)
2.2 P-05-1123 Codi blaenoriaeth gweithwyr allweddol nad ydynt yn gweithio i’r GIG sy’n wynebu'r cyhoedd wrth gyflwyno'r brechlyn ar gyfer Covid-19
(Tudalennau 48 - 51)
2.3 P-05-1124 Caniatáu i ddau unigolyn o ddwy aelwyd wahanol gwrdd ar gyfer ymarfer corff yn haen 4
(Tudalennau 52 - 53)
2.4 P-05-1127 Gostwng yr uchafswm ffioedd ar gyfer holl brifysgolion Cymru oherwydd gofynion dysgu o bell yn sgil COVID-19
(Tudalennau 54 - 57)
2.5 P-05-1128 Canslo 'asesiadau' allanol ar gyfer cymwysterau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn 2021 a defnyddio graddau a aseswyd gan athrawon yn unig
(Tudalennau 58 - 62)
2.6 P-05-1135 Cyllid wedi'i dargedu ar gyfer canolfannau addysg awyr agored preswyl, sydd bellach yn methu â gweithredu am 12 mis
(Tudalennau 63 - 70)
2.7 P-05-1136 Dylid caniatáu i drigolion Cymru deithio i bysgota yr un fath â'n cymheiriaid yn Lloegr
(Tudalennau 71 - 75)
2.8 P-05-1139 Dylid ymestyn rhyddhad treth stamp yn dilyn cyhoeddi rhagor o gyfyngiadau symud
(Tudalennau 76 - 80)
Deisebau Newydd Eraill
2.9 P-05-1111 Rhowch y £7 miliwn yn ôl yn y gronfa Trawsnewid Iechyd Meddwl
(Tudalennau 81 - 83)
2.10 P-05-1125 Dylai deisebau sydd â dros 5,000 o lofnodion fod yn destun dadl, nid cael eu hystyried ar gyfer dadl yn unig
(Tudalennau 84 - 86)
2.11 P-05-1129 Mae angen cymhwyso mesurau deddfwriaethol nawr i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i ddiddymu Lesddaliad
(Tudalennau 87 - 89)
2.12 P-05-1130 Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech
(Tudalennau 90 - 113)
2.13 P-05-1131 Rhoi terfyn ar unwaith ar waith carthu oddi ar arfordir Gŵyr, nes y ceir gwerthusiad o’r effeithiau andwyol
(Tudalennau 114 - 118)
2.14 P-05-1132 Cychwyn Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
(Tudalennau 119 - 121)
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
Economi a Thrafnidiaeth
3.1 P-05-934 Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent
(Tudalennau 122 - 128)
3.2 P-05-1067 Caniatáu i bob siop sy’n gwerthu eitemau dianghenraid barhau i fasnachu yn ystod y cyfnod cyfyngiadau 17 diwrnod
(Tudalennau 129 - 131)
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
3.3 P-05-942 Yr Awr Euraidd wrth Ddioddef Strôc – Amseroedd Ymateb Ambiwlansau i’w hailgategoreiddio o Statws Oren yn ôl i Statws Coch
(Tudalennau 132 - 135)
3.4 P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â’r hyn a geir yng ngweddill y DU
(Tudalennau 136 - 139)
Bydd y ddwy eitem a ganlyn yn cael eu trafod ar y cyd
3.5 P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth
(Tudalennau 140 - 142)
3.6 P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19
(Tudalennau 143 - 145)
Bydd y ddwy eitem a ganlyn yn cael eu trafod ar y cyd
3.7 P-05-1052 Rhowch godiad cyflog i nyrsys yn unol â’r hyn a roddir i staff rheng flaen eraill yn ystod pandemig COVID-19
(Tudalennau 146 - 147)
3.8 P-05-1089 Dylai Cymru arwain ar ddod â chyflogau’r GIG nôl i fod yn unol â chostau chwyddiant dros y 10 mlynedd diwethaf
(Tudalennau 148 - 149)
Tai a Llywodraeth Leol
3.9 P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai
(Tudalennau 150 - 153)
3.10 P-05-1081 Sicrhau bod perchnogion ail gartrefi a thai gwyliau ar rent yng Nghymru yn pleidleisio yn eu prif gyfeiriad yn unig, mewn etholiadau datganoledig a lleol
(Tudalennau 154 - 160)
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
3.11 P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONTFAEN RHAG EI DYMCHWEL
(Tudalennau 161 - 165)
3.12 P-05-1075 Peidiwch â gosod terfyn o 15 person ar weithgareddau dan do wedi'u trefnu – fel gwersi nofio a dosbarthiadau ffitrwydd – ar ôl y cyfnod atal byr
(Tudalennau 166 - 169)
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
Etem 5.
5 Ystyried adroddiad drafft - P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi
(Tudalennau 170 - 186)